Annwyl Weinidog,  

Ysgrifennwn atoch er mwyn erfyn arnoch i ail-ystyried cynnwys Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru er mwyn creu trefn cynllunio sy'n ateb anghenion Cymru trwy daclo tlodi, diogelu ein planed a’n hamgylchedd, a chryfhau ein hiaith genedlaethol unigryw.  

Mae sefyllfa'r Gymraeg yn fregus iawn ar lefel gymunedol. Fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, nid oes modd i gynghorwyr, o dan y fframwaith cynllunio statudol presennol, ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith iaith yn unig. Mae angen newid y sefyllfa honno drwy'r Bil, gan ei fod yn fater nad oes modd ei ddatrys heb ddeddfwriaeth. Pe collir y cyfle hanesyddol hwn i sicrhau bod y drefn gynllunio yn adlewyrchu anghenion Cymru, byddai'n peryglu ein gallu i gryfhau'r Gymraeg yn ein cymunedau am nifer o flynyddoedd i ddod.  

Pryderwn yn ogystal am y nifer o ffyrdd mae'r Bil yn cynnig canoli grym yng Nghaerdydd, credwn yn gryf y dylai fod gan gynghorau'r rhyddid i allu pennu targedau tai yn seiliedig ar anghenion lleol yn annibynnol o'r Llywodraeth yn ganolog. Eto, mae rhaid i fframwaith y Bil ddatganoli'r grym hwnnw yn ogystal â chreu proses newydd sy'n ein harwain a'n cynorthwyo i asesu'r angen lleol hynny mewn ffordd drwyadl.   

Rydyn ni hefyd yn cytuno gyda chyngor eich pwyllgor arbenigol bod angen pwrpas statudol i'r system gynllunio, sy'n rhoi cyfeiriad i'r system, ac sy'n egluro mai diogelu ein hamgylchedd, mynd i'r afael â thlodi, a chryfhau’r Gymraeg yw rhai o sylfeini'r drefn gynllunio drwyddi draw.   

Yr eiddoch yn gywir, 

Cyng. John Nott, Arweinydd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr 

Cyng. Jamie Adams, Arweinydd Cyngor Sir Penfro 

Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Wrecsam 

Cyng. Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin 

Cyng. Dilwyn Roberts, Arweinydd Cyngor Sir Conwy 

Cyng. Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn 

Cyng. Ellen ap Gwynn, Cyngor Sir Ceredigion 

Cyng. Phil Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Conwy 

Cyng. Sian Gwenllian, Cyngor Gwynedd 

Cyng. Bob Parry, Cyngor Ynys Môn 

Cyng. Victor Hughes, Cyngor Ynys Môn 

Cyng. Ann Griffiths, Cyngor Ynys Môn

cc: Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad